Yn barod i archebu lle?
Cwrs Ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan
Cyfleus
Dechreuwch y cwrs ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi. Hawdd archebu lle ar-lein
Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn
Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Wedi’i ddarparu gan Gymorth i Ddioddefwyr
Wedi’i ddarparu gan hyfforddwyr Cymorth i Ddioddefwyr achrededig
Mae’r Cwrs Ymwybyddiaeth o Ddioddefwyr (VAC) yn opsiwn addysgol ac adsefydlol i droseddwyr sydd wedi cyflawni trosedd lefel isel, ac sydd wedi cael eu dargyfeirio o’r llys gan yr heddlu trwy roi Rhybudd Amodol neu Ddatrysiad Cymunedol.
Nid yw’r cwrs yn codi cywilydd ar unigolion, yn eu barnu, nac yn eu dwyn i gyfrif am y drosedd a gyflawnwyd. Ac ni fydd yr hyfforddwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn gofyn i unrhyw un yn y grŵp siarad am eu trosedd.
Ni fydd pobl sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (ac unrhyw amodau eraill a bennir gan yr heddlu) yn cael eu herlyn am y drosedd wreiddiol.
Mae’r cwrs yn para 3 awr.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fynd â chi ar daith sydd:
Mae cyrsiau i yrwyr dan Gyfeiriad yr Heddlu wedi symud o ystafell ddosbarth go iawn i ystafell ddosbarth ar-lein. Bellach byddwch yn cael mynediad at gyrsiau trwy gyswllt fideo diogel naill ai o’ch gliniadur, eich llechen neu’ch ffôn.