Fleet Award for Driver Training
Fleet Award for Driver Training
2001-02, 03, 04 & 05


Enw’r cynllun: RIDE Gogledd Cymru.
Ar gyfer: Beicwyr modur sydd wedi bod mewn damwain neu wedi cael pwyntiau ar eu trwydded.
Crynodeb: Nod cynllun RIDE Gogledd Cymru yw galluogi beicwyr modur dibrofiad a phrofiadol fel ei gilydd i gael gwell dealltwriaeth o beryglon a goblygiadau posibl y penderfyniadau maent yn eu gwneud ar gefn beic modur. Mae’n rhan o fenter genedlaethol RIDE (Rider Intervention and Developing Experience).
Hyd y cwrs: 7 awr sy’n cynnwys sesiwn 3 awr yn y bore, awr i ginio, a sesiwn 3 awr yn y prynhawn. Nid yw’n cynnwys unrhyw elfennau ymarferol ar gefn beic modur ar y ffordd.
Cynnwys: Mae’r cwrs yn annog beicwyr modur i feddwl am eu profiadau ar gefn beic modur hyd yma ac ystyried goblygiadau posibl eu penderfyniadau. Mae’n cynorthwyo beicwyr modur i wneud penderfyniadau gwell a mwy deallus ar y ffyrdd ac mae’n cynnig syniadau a dulliau newydd o ymateb i wahanol sefyllfaoedd ar gefn beic modur.
Lleoliad: Wrecsam ~ Plas Pentwyn, Ffordd y Castell, Coedpoeth, Wrecsam, Clwyd LL11 3NA.
Cliciwch yma i weld cyfarwyddiadau ar y we.
Cliciwch yma i weld map o strydoedd yr ardal leol.
Pris: £ 105 gan gynnwys TAW.
Cadw lle: Ffoniwch 0845 676 7776 – rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Telerau ac amodau: Cliciwch yma i weld y telerau a'r amodau.