Buddion y cwrs

Ar gael ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus â chamera a sain, band eang digonol ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Croesawgar
Hyfforddiant mewn amgylchedd hamddenol

Cyfleus
Dewiswch ddyddiad ac amser sy’n addas i chi ac mae’n hawdd archebu lle ar-lein neu dros y ffôn

Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Dim dirwy neu bwyntiau cosb
Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy ac ni fydd pwyntiau cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Gyflymder ar gyfer ystafelloedd dosbarth digidol (iNSAC) yn ymyrraeth ddengar, ddiddorol a phleserus sy’n arwain at newid parhaus yn y ffordd y mae mynychwyr yn gyrru. Mae’n opsiwn addysgol ac adsefydlol i’r rheiny sydd wedi cyflawni trosedd gyrru’n rhy gyflym, ac sydd wedi cael eu dargyfeirio o’r llys gan yr heddlu trwy roi Hysbysiad Cosb Benodedig Amodol (CFPN).

Nid yw’r cwrs yn codi cywilydd ar unigolion, yn eu barnu, nac yn eu dwyn i gyfrif am y drosedd a gyflawnwyd. Ac ni fydd yr hyfforddwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn gofyn i unrhyw un yn y grŵp siarad am eu trosedd. Ni fydd pobl sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (ac unrhyw amodau eraill a bennir gan yr heddlu) yn cael eu herlyn am y drosedd wreiddiol.

Mae’r cwrs yn para 2.5 awr, a gall y pris amrywio gan ddibynnu ar yr heddlu sy’n cyfeirio.

Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fynd â chi ar daith sydd:

  • Yn dangos i chi sut i nodi terfynau cyflymder
  • Yn eich helpu i adnabod pam nad yw’n ddiogel gyrru’n rhy gyflym
  • Yn dwyn sylw at y canlyniadau posibl i chi a phobl eraill os byddwch yn gyrru’n rhy gyflym ac yn cael gwrthdrawiad
  • Yn esbonio sut y gallwch chi adnabod pwysau i yrru’n rhy gyflym gennych chi a phobl eraill, a’i wrthsefyll
  • Yn dangos i chi ei bod yn hawdd peidio sylwi ar beryglon heb ganolbwyntio
  • Yn eich helpu i lunio cynllun gweithredu o ran sut y byddwch chi’n gyrru’n wahanol yn y dyfodol er mwyn ogsoi gyrru’n rhy gyflym

Y nod cyffredinol yw eich ysgogi i gydymffurfio â therfynau cyflymder.

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon