Policing Insight yn cyhoeddi darn arwain agweddau diweddaraf Charlie Norman “Sgwteri Trydan: Datrysiad ôl-Covid neu hunllef plismona?” – cyhoeddwyd ddydd Gwener 18fed Medi

Mae Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr Drivetech, yn cynnig sylwadau ar ymddangosiad treialon e-sgwteri cyhoeddus yn y DU a’r her i’r heddlu.

Mae argaeledd eang E-sgwteri ar ffyrdd trefi a dinasoedd Prydain yn achosi dadleuon cynyddol ac yn cynhyrchu ymatebion wedi hollti. Mae Charlie Norman o Drivetech yn archwilio’r materion ar gyfer plismona y mae E-sgwteri yn eu cyflwyno.

“Dechreuodd awdurdodau cyhoeddus, sy’n awyddus i weld pobl yn dychwelyd yn ddiogel i’w swyddfeydd (ond yn ddelfrydol heb orlenwi trafnidiaeth gyhoeddus) gael gwared ar yr anghymhellion a’r rhwystrau i’w defnyddio.”

Pan laddwyd Emily Hartridge mewn gwrthdrawiad yn Ne Llundain ym mis Gorffennaf 2019, roedd cyfryngau’r brif ffrwd yn gyflym iawn i ganolbwyntio ar y cerbyd roedd hi wedi bod yn teithio arno ar adeg ei marwolaeth.

Roedd gan Hartridge broffil uchel yn y cyfryngau: roedd hi’n ddarlledwr, yn ddylanwadwr Instragram ac yn bersonoliaeth cyfryngau cymdeithasol. Hi hefyd oedd yr unigolyn cyntaf i farw mewn gwrthdrawiad yn cynnwys E-sgwter, pan wrthdrawiadodd â lori yn Battersea, ac ysgogodd ei marwolaeth ddadl eang am ddiogelwch y peiriannau.

Yna daeth COVID-19 a dechreuodd awdurdodau cyhoeddus, sy’n awyddus i weld pobl yn dychwelyd yn ddiogel i’w swyddfeydd (ond yn ddelfrydol heb orlenwi trafnidiaeth gyhoeddus) gael gwared ar yr anghymhellion a’r rhwystrau i’w defnyddio.

Her sylweddol i blismona

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymgodymu â chwestiwn ‘microsymudedd’ – sy’n cynnwys E-sgwteri – ers peth amser. Mae Prydain wedi llusgo y tu ôl i wledydd eraill fel yr Almaen, Ffrainc, Awstria a’r Swistir lle caniateir defnydd ar hyn o bryd, ond mae’r cyfreithiau a rheoliadau’n wahanol o wlad i wlad.

Mor ddiweddar â dechrau’r flwyddyn, yr unig fan lle’r oeddech yn cael defnyddio un ym Mhrydain oedd ar dir preifat, er bod y gwaharddiad ar ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus neu lwybr troed yn cael ei anwybyddu’n eang. Mae Covid wedi ysgogi’r Llywodraeth i gyflymu treialon cynlluniau rhentu microsymudedd ac maent bellach ar waith yn Llundain, Milton Keynes, Middlesbrough a nifer o drefi a dinasoedd eraill.

Nid oes gan y seilwaith priffyrdd presennol, yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd, ddarpariaeth eang o lonydd beicio sef, mae’n debyg, yr amgylchedd y maent yn fwyaf addas iddo.

Gallai’r her i’r heddlu fod yn sylweddol. Gellir rhaglennu rhai mathau o sgwter i deithio yn gyflymach na 70 km/awr, ond mae sgwteri yn y treialon rhentu wedi’u cyfyngu i 25 km/awr. Nid oes gan y seilwaith priffyrdd presennol, yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd, y ddarpariaeth eang o lonydd beicio sydd, mae’n debyg, yn amgylchedd sy’n fwyaf addas iddynt, gan adael i’r reidiwr ddewis rhwng torri’r gyfraith a defnyddio’r llwybr troed (lle maent yn achosi perygl i bobl eraill) neu fynd i’r ffordd (lle maent yn achosi perygl iddynt hwy eu hunain).

Mae’r gyfraith yn gymhleth mewn perthynas ag E-sgwteri a bydd angen iddi esblygu’n gyflym. Ar hyn o bryd fe’u dosberthir fel Cerbydau Trydan Ysgafn Personol (PLEVs), ac yng ngolwg y gyfraith maent yn destun i reoliadau trwyadl tebyg i’r rheiny sy’n cwmpasu cerbydau mwy: MOT, treth, trwyddedu ac ati.

Mae’r cynlluniau rhentu peilot yn mynnu bod yn rhaid i reidwyr fod dros 16 oed a meddu ar drwydded yrru dros dro o leiaf i logi PLEV – ond mae defnydd preifat o’ch sgwter eich hun ar y ffordd yn parhau i fod yn drosedd o dan bob amgylchiad, â’r potensial i arwain at ddirwy o £300 a chwe phwynt cosb.

Peryglon a defnyddiau troseddol

Mae yna ddigon o beryglon posibl. Yn gyntaf, mae diogelwch y cerbyd ei hun. Mae ganddynt olwynion bach, crogiant cyfyngedig, craidd disgyrchiant isel iawn a safle reidio sy’n anghyfarwydd i lawer o bobl.

Mae’r gofyniad i’w gweithredu â’r ddwy law yn lleihau gallu’r marchog i roi signalau llaw yn ddifrifol; yn gyffredinol, maent yn wynebu dewis o ddangos arwydd eu bod am droi neu brecio – nid y ddau.

Mae dyfodiad E-sgwteri yn ddewis amgen go iawn i droseddwr y stryd sy’n chwilio am ffordd o ddianc yn gyflym drwy’r dorf.

Mae yna gwestiynau pwysig hefyd ynglŷn â diffyg parodrwydd llawer o farchogion i ddefnyddio’r offer. Ni fydd llawer, os nad y rhan fwyaf, o reidwyr wedi cael unrhyw gyfarwyddyd o gwbl cyn symud i strydoedd prysur yn llawn cerbydau o bob maint, a heb unrhyw ofyniad am unrhyw offer diogelwch fel helmed, goleuadau neu ddillad gwelededd uchel.

Mae’r heddlu hefyd yn debygol o bryderu am y defnydd o E-sgwteri mewn ffurfiau eraill o droseddoldeb. Mae’r Heddlu Metropolitan wedi cael cryn lwyddiant wrth ostwng lefel ‘troseddau moped’ fel y’u gelwir, ond mae dyfodiad E-sgwteri yn ddewis amgen go iawn i droseddwr y stryd sy’n chwilio am ffordd o ddianc yn gyflym drwy’r dorf.

Canllawiau cyfreithiol a gweithredol

Ac yn wahanol iawn i’r peryglon a’r risgiau, mae’r heriau ar y stryd sy’n wynebu swyddogion heddlu unigol ymhell o fod yn ddibwys. Beth yw pwerau’r heddlu i stopio E-sgwter a mynnu dogfennau? A pha ddogfennau?

Sut y mae swyddog yn gallu dweud a yw sgwter mewn meddiant preifat neu’n cael ei rentu? A oes yn rhaid adrodd am wrthdrawiadau? Beth yw’r gyfraith o ran yfed a reidio? A ellir gwaredu E-sgwter yn gyfreithlon unrhyw le?

“Bydd angen cymryd gofal i reoli’r risg nad yw twf microsymudedd yn cyd-fynd â chynnydd mewn clwyfedigion neu ffynhonnell o densiwn newydd rhwng yr heddlu a defnyddwyr ffyrdd (sy’n iau yn bennaf).

Beth yw pwerau’r heddlu ar gyfer reidio peryglus, neu reidio ar y palmant? A beth am yrru’n rhy gyflym? Neu yswiriant? Mae gan y gyfraith a’r canllawiau gweithredol dipyn o waith dal i fyny i’w wneud.

Mae awydd y Llywodraeth i ddal i fyny â gwledydd eraill yn ddealladwy ac ni ellir gwadu’r potensial y gall E-sgwteri helpu i symud poblogaethau o gwmpas mewn ffordd sy’n cadw pellter cymdeithasol. Ond bydd angen cymryd gofal i reoli’r risg nad yw twf microsymudedd yn cyd-fynd â chynnydd mewn clwyfedigion neu ffynhonnell o densiwn newydd rhwng yr heddlu a defnyddwyr ffyrdd (sy’n iau yn bennaf).

Yn Drivetech rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu pecynnau i helpu i baratoi reidwyr – yn enwedig y rheiny sy’n ddibrofiad ac yn ifanc – ond nid oes unrhyw ofyniad gorfodol ar unrhyw ddefnyddiwr i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant ar unrhyw adeg o gwbl, wrth baratoi i reidio.

Mae’r diffyg ystyriaeth eang, yn ôl pob golwg, ar gyfer y gyfraith sy’n amlwg mewn nifer o ardaloedd yn debygol o gynyddu oni bai bod rhwystrau ac anghymhellion ystyrlon yn cael eu rhoi ar waith.

Os dymunwn weld twf parhaus mewn microsymudedd, yna dylai gyd-fynd â darpariaethau i sicrhau bod reidwyr yn cael eu paratoi a’u diogelu’n well, a bod rôl yr heddlu’n glir. Gallai cymryd llwybrau tarw ar hyn o bryd arwain at ganlyniadau difrifol yn y dyfodol.

 

Gwelwch Policing Insight ar-lein yma


Yn ôl i newyddion ac adnoddau