Bellach mae Drivetech wedi cyhoeddi’r gweminar a recordiwyd ar “Ymddygiad Gyrru” a ddarparwyd ddydd Llun 14eg Medi fel rhan o wythnos Prosiect EDWARD.

Gallwch weld recordiad y gweminar llawn trwy glicio’r botwm isod ar y dudalen hon. Gan ganolbwyntio ar straen gyrwyr, ac yn rhoi rhagolwg ar fenter newydd o ran addysg gyrwyr proffesiynol sy’n cael ei datblygu, mynychodd nifer dda y gweminar ac roedd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb ardderchog.

Mae Prosiect EDWARD – yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd sydd bellach yn canolbwyntio ar “Bob Dydd Heb Farwolaeth ar y Ffyrdd” (Every Day Without a Road Death) – wedi dychwelyd eleni ag wythnos o weithgarwch diogelwch ar y ffyrdd yn ystod wythnos 14eg-18fed Medi, gan ganolbwyntio ar risg ffyrdd sy’n gysylltiedig â gwaith.

Mae Drivetech yn gefnogwr swyddogol Prosiect EDWARD ac yn gobeithio y gall gynhyrchu rhywfaint o ddadlau da ac ysgogi mwy o gamau tuag at sicrhau ffyrdd mwy diogel, yn enwedig ym maes gyrru’n broffesiynol ar gyfer gwaith. Mae gweddill yr wythnos yn cynnwys gweithgareddau eraill ar themâu ar ddiwrnodau olynol, a rhoir cyhoeddusrwydd i’r manylion ar wefan Prosiect EDWARD.

Wrth sôn am yr aliniad â Phrosiect EDWARD, dywedodd Colin Paterson, Pennaeth Marchnata Drivetech: “Yn Drivetech, cadw pobl yn ddiogel sy’n ein gyrru, ac mae ein hamrywiaeth o wasanaethau rheoli risg ar y ffyrdd. a hyfforddi gyrwyr, yn cyd-fynd yn dda â neges gyffredinol Prosiect EDWARD – gweithio tuag at sicrhau bod pob dydd heb farwolaeth ar y ffyrdd. Byddwn yn cyfrannu at neges yr ymgyrch hon ac yn gobeithio y bydd y gweminar Ymddygiad Gyrwyr, a chynnwys diogelwch ar y ffyrdd arall y gallwn ei ddarparu yn ystod yr wythnos, yn cael effaith wirioneddol ar leihau marwolaethau ar y ffyrdd a gwrthdrawiadau difrifol.”

Dysgwch fwy am ymgyrch Prosiect EDWARD 2020 ar y wefan yma – www.projectedward.org – ac i gael gwybod mwy am amrywiaeth Drivetech o wasanaethau rheoli risg gyrwyr ewch i wefan newydd Drivetech yma – https://www.drivetech.co.uk/global-business-fleet-solutions

 

Gwelwch y Recordiad Yma


Yn ôl i newyddion ac adnoddau