Mae Drivetech wedi bod yn ymroddedig i ddiogelwch ffyrdd a phobl erioed. Eleni, mae Drivetech wedi penderfynu adnewyddu ei frandio, yn fwyaf nodedig â newidiadau i’w safle a’i ddatganiad cenhadaeth: Drivetech – gan yr AA. Cadw pobl yn ddiogel sy’n ein gyrru.
 
Mae’r safle newydd hon yn dathlu cysylltiad cryf a chydweithredol â’r AA ccc. Mae bod yn rhan o ddarparwr gwasanaeth moduro eang, ag ethos cwsmeriaid sydd o ansawdd ac yn uchel ei barch, yn cyd-fynd â’i strategaeth Cwsmeriaid yn Gyntaf ei hun.
 
Er bod Drivetech wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch gyrwyr, mae’r safle newydd hwn – cadw pobl yn ddiogel sy’n ein gyrru – yw caniatáu golwg mwy agored o le y gallai Drivetech ychwanegu gwerth ym maes diogelwch pobl i’r dyfodol – nid o reidrwydd ar gyfer gyrwyr yn unig.
 
Gyda’r argyfwng Covid-19 presennol, daeth ei ddatganiad cenhadaeth newydd yn berthnasol yn gyflym iawn. Fel pob cwmni arall, mae ei ‘fusnes fel arfer’ wedi newid dros yr wythnosau diwethaf. Yn achos Drivetech, nid oedd llawer o’i weithwyr erioed wedi gweithio gartref o’r blaen. Roedd angen i weithwyr addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio ac, mewn rhai achosion, jyglo gwaith ochr yn ochr ag addysgu gartref.
 
Cydnabu Drivetech y gallai hwn fod yn gyfnod heriol i weithwyr felly maent wedi lansio Clinig Galw Heibio – a neilltuwyd i helpu’r holl staff trwy amodau gwaith o bell yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19. Mae’r clinig yn cynnwys fforwm sgwrsio, manylion cyswllt eu swyddog cymorth cyntaf ym maes iechyd meddwl a darllediad wythnosol byw o dan arweiniad Dr Col, sef Colin Paterson, Pennaeth Marchnata. Rhan o hwyl ac ymgysylltiad y grŵp hwn yw’r ffaith nad yw Dr Col yn ymarferydd meddygol mewn gwirionedd, a mynegir hyn yn glir – mae ei drosolwg yn un tafod-mewn-boch ac yn barodi di-droi’n-ôl yn wyneb pandemig difrifol iawn sy’n bygwth iechyd.

Mae angen iddynt gadw eu pobl eu hunain yn ddiogel, fel y gallant, yn eu tro, gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Colin Paterson (sef Dr Col), Steve Appleby, Louise Appleby a Leanne Hayes

 

Cyn pob darllediad wythnosol byw, mae Dr Col yn annog gweithwyr i rannu eu straeon o’r cyfnod cyfyngiadau symud. Roedd tair stori yn cynhesu’r galon ac yn rhy dda i beidio â rhannu:
 
Mae Steve Appleby (Rheolwr Hyfforddiant Fflyd Rhanbarthol) a’i wraig Louise Appleby (Hyfforddwr Drivetech) ill dau yn gwirfoddoli ar gyfer prosiect o’r enw ‘Labmask’. Busnes sy’n lleol i’w pentref, Labman, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cymwysiadau awtomeiddio a robotig ar gyfer diwydiant. Nod y prosiect hwn o’r enw “Labmask” yw dylunio a chynhyrchu mygydau amddiffyn wyneb llawn heb unrhyw gost i’r GIG a sefydliadau eraill sydd eu hangen. Gwnaethant eu sifft gyntaf ar y llinell gynhyrchu ddydd Gwener 17eg Ebrill – gwnaethant hyd yn oed gyrraedd eu targed dyddiol o 6,000 mwgwd y dydd ag oddeutu 50 munud ar ôl ar y sifft.
 
Ymunodd Leanne Hayes, Rheolwr Marchnata, â chynllun Ymatebwyr Gwirfoddol y GIG fel Gwirfoddolwr Gwirio a Sgwrsio, gan roi cymorth dros y ffôn i unigolion sydd mewn perygl o deimlo’n unig. Dywedodd Leanne: “Cyn gynted ag y dechreuodd y cyfyngiadau symud, fe wnes i’n siŵr bod gan fy nghymydog oedrannus fy rhif ffôn. Rydym yn sgwrsio o leiaf unwaith yr wythnos ar y ffôn ac yn codi llaw ar ein gilydd trwy’r ffenestr. Pan ofynnodd y llywodraeth am wirfoddolwyr, nid oedd yn rhaid i mi feddwl ddwywaith – fe wnes i gofrestru ar unwaith – bod ar gael ar gyfer sgwrs yw’r lleiaf y gallwn ei wneud o dan yr amgylchiadau presennol hyn. Hefyd, does gen i ddim y straen ychwanegol o ofal plant 24/7 ochr yn ochr â gwaith!!”
 
Roedd angen cefnogaeth ar Dave Dando-Moore, Datblygwr MI, ar gyfer ei dad oedrannus yn Ne Cymru. Fe wnaeth Dave bostio ar Facebook yn gofyn a oedd unrhyw un yn gwybod am grŵp lleol i’w dad. O fewn ychydig funudau roedd gwraig rhywun roedd yn ei adnabod 30 mlynedd yn ôl wedi ateb a’i ymuno â’r grŵp cymorth. 30 munud yn ddiweddarach cafodd e-bost gan rywun sy’n rhan o Gynulliad Cymru ac roedd hi eisoes wedi cael gafael ar wirfoddolwr a oedd yn ymweld â’i dad awr yn ddiweddarach. Bellach mae’r gwirfoddolwr hwn yn mynd i dŷ ei dad bob yn ail ddiwrnod neu dri i wirio ei fod yn iawn a phrynu ei fwyd hanfodol iddo, a chlywn fod hyn yn cynnwys Jaffa Cakes.


Yn ôl i newyddion ac adnoddau