A ydym ni’n barod ar gyfer ailwampiad mwyaf erioed gofynion diogelwch cerbydau gorfodol?

Goblygiadau ar gyfer plismona ffyrdd yn y dyfodol.

 

Drivetech and PolicingInsight

 

Mae Drivetech, ar y cyd â’r partner cyfryngau i’r digwyddiad Policing Insight, yn falch iawn i gynnal gweminar i drafod goblygiadau ei bapur gwyn diweddar: “Intelligent Speed Assistance – a logical move for road safety, but driver tech education is still a critical need”.

Teitl y gweminar ei hun yw: “Are we ready for the biggest ever overhaul of mandatory vehicle safety requirements?”

Caiff ei chynnal ar 18 Mehefin 2020, 11.00-12.00 BST, a bydd yn crynhoi cyflwyniad arfaethedig nifer o systemau technegol newydd ar gerbydau ar draws yr UE gan gynnwys ‘cyfyngwyr cyflymder’ a bydd yn ystyried y goblygiadau i blismona ffyrdd yn y dyfodol.

Bydd awdur yr adroddiad, Ian Bint – cyn-bennaeth plismona ffyrdd yn Ne Swydd Efrog, yn crynhoi’r papur gwyn, ac yn tynnu sylw at ei ganfyddiadau allweddol, a bydd Dr Helen Wells, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Academaidd Plismona Ffyrdd, a John Apter, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, yn ymuno ag ef. Rydym wrth ein bodd y bydd Prif Weithredwr UKROEd, Ruth Purdie, hefyd yn ymuno â’r weminar ac yn cyfrannu at y sesiwn Cwestiwn ac Ateb.

Materion allweddol a fydd yn cael sylw:

  • A fydd gyrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r offer newydd hwn yn ddiogel?
  • A allai’r systemau hyn ysgogi ymdeimlad ffug o sicrwydd ymhlith gyrwyr?
  • A allai’r systemau fod yn dueddol o gynnwys lefel annerbyniol o gamgymeriad wrth eu defnyddio?
  • Beth yw goblygiadau ehangach cerbydau mwy cymhleth ar ffyrdd sy’n fwyfwy gorlawn ar swyddogaeth plismona ffyrdd sydd wedi teneuo?

Dysgwch fwy am Policing Insight.


Yn ôl i newyddion ac adnoddau