Mae Drivetech yn falch iawn o fod wedi gwneud cais llwyddiannus i ddarparu rhaglenni diogelwch gyrwyr newydd ifanc ar y cyd â Phartneriaeth Ffyrdd Mwy Diogel De Swydd Efrog.

Mae’r contract am gyfnod o ddeuddeg mis ac mae wedi’i gynllunio i ddarparu amrywiaeth o fanteision i wella diogelwch ar y ffyrdd â’r segment hwn o ddefnyddwyr ffyrdd sydd â risg uwch. Mae’r rhaglen wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ymarferol i:

  • cynyddu gwybodaeth am wahanol fathau o ffyrdd a sefyllfaoedd, a phrofiad ohonynt
  • nodi a chynyddu cymhwysedd mewn meysydd lle gallai’r gyrrwr fod â phryder penodol, neu wedi gweld anawsterau fel ar ffyrdd gwledig neu yrru ar draffyrdd
  • cynyddu bwriadau a phrosesau meddwl mwy diogel wrth yrru
  • amlygu pethau nodweddiadol sy’n tynnu sylw ac ymddygiad byrbwyll, a sut i leihau’r rhain
  • cynyddu gwybodaeth a bwriadau i hunanfonitro a hunanreoleiddio

Wrth sôn am y contract newydd hwn a enillwyd, dywedodd Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr Drivetech:

“Mae ein perthynas â llawer o heddluoedd y DU yn ymwneud â darparu cyrsiau hyfforddi troseddwyr dan gyfeiriad yr heddlu, felly mae’n foddhaol iawn ennill y contract hwn oherwydd y byddwn yn cael y cyfle i fynd ati i gefnogi gyrwyr ifanc, gwella eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd a’u helpu i osgoi unrhyw broblemau o ran diogelwch gyrwyr neu gyflawni unrhyw droseddau gyrru”.

Dywedodd Joanne Wehrle, rheolwr Partneriaeth Ffyrdd Mwy Diogel De Swydd Efrog, “Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio â Drivetech ar y prosiect newydd hwn i wella diogelwch gyrwyr newydd ifanc. Diogelwch ein pobl ifanc yw’r brif flaenoriaeth, oherwydd bod y grŵp oedran hwn wedi’i orgynrychioli yn ein hystadegau anafusion. Mae Drivetech yn cynnig mantais eu cyfoeth o brofiad i ni wrth ddarparu ymyriadau i wella diogelwch gyrwyr. Edrychwn ymlaen at weithio â nhw i fynd i’r afael, yn benodol â’r gynulleidfa gyrwyr ifanc, a datblygu prosiect sy’n rhoi i bobl ifanc y sgiliau gyrru ymarferol sydd eu hangen arnynt i fod yn yrwyr mwy diogel.”


Yn ôl i newyddion ac adnoddau