Erthygl o Policing Insight wedi’i hailadrodd yma:

Mae plismona ffyrdd yn ôl yn y newyddion – ond ni all yr heddlu fynd i’r afael â’r her hon ar eu pen eu hunain

Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr, Drivetech

 

Mae adroddiadau diweddar HMICFRS a PACTS wedi dwyn sylw at rôl bwysig plismona ffyrdd wrth fynd i’r afael â throseddu a diogelwch y cyhoedd. Ond cred Charlie Norman, rheolwr gyfarwyddwr y sefydliad diogelwch ar y ffyrdd Drivetech, â galwadau sy’n cystadlu am adnoddau cyfyngedig, mai partneriaethau fydd yr allwedd i ymateb i heriau, sy’n aml yn gymhleth.

Yn sicr, mae plismona ffyrdd yn y newyddion eto. Yn ddiweddar, gwelsom adroddiad angerddol gan y Cyngor Ymgynghorol Seneddol ar Ddiogelwch Trafnidiaeth (PACTS) a gyflwynodd achos cryf dros fwy o orfodi, a chynhyrchodd restr sylweddol o achosion dros gwyno am y trefniadau presennol.

“Nid yw’n syndod fy mod wedi dod o hyd i ddarlun cymysg, â llawer o bethau cadarnhaol wedi’u canfod yn yr heddluoedd mwyaf fel yr Heddlu Metropolitan a Gorllewin Canoldir Lloegr, ond â bylchau pryderus mewn mannau eraill”.

Dilynwyd hyn y mis diwethaf ag adroddiad HMICFRS, Roads Policing: Not optional, a oedd yn cytuno â llawer o’r hyn yr oedd PACTS wedi’i ddweud – gan daflu goleuni ar lawer o ddiffygion mewn strategaeth plismona ffyrdd, partneriaethau, gwybodaeth, adnoddau a gorfodi. Roedd y ddau adroddiad yn rhoi darlun cyson bod llawer iawn o le i wella.

Heb os, adroddiad yr Arolygiaeth, a ysgrifennwyd gan AEM Matt Parr, oedd y craffu mwyaf cynhwysfawr ar blismona ffyrdd mewn rhai blynyddoedd.

Gwnaeth y pethau amlwg – fel nodi’r gydberthynas rhwng toriadau i niferoedd yr heddlu traffig a gwastatáu’r gostyngiadau diweddar a marwolaethau ar y ffyrdd. Ond roedd hefyd yn edrych yn ddyfnach, gan archwilio strategaeth genedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ar gyfer plismona’r ffyrdd, ac edrychodd ar ddylanwad y strategaeth mewn heddluoedd.

Nid yw’n syndod y daeth o hyd i ddarlun cymysg, â llawer o bethau cadarnhaol wedi’u canfod yn yr heddluoedd mwyaf fel yr Heddlu Metropolitan a Gorllewin Canoldir Lloegr, ond â bylchau pryderus mewn mannau eraill.

Edrychodd hefyd ar y ffordd y defnyddir gwybodaeth i sbarduno gweithgarwch plismona, oherwydd bod consensws parhaus bod diben plismona ffyrdd yn ymwneud â gwadu i droseddwyr ddefnyddio’r ffyrdd o leiaf yr un faint ag y mae’n ymwneud â ‘chadw modurwyr yn onest’ o ran cyflymder, gyrru gofalus ac offer sy’n gweithio’n briodol.

Adfywio partneriaethau

“Efallai nad yw’n syndod gweld yr adroddiad hwn yn galw am fwy o adnoddau ar gyfer y swyddogaeth arbenigol hon. Y broblem, serch hynny, yw bod plismona ffyrdd ymhell o fod ar ei ben ei hun yn y rhes sy’n aros am hwb i lefelau staffio”.

Galwodd yr adroddiad ar brif gwnstabliaid i sicrhau, ar unwaith, bod y gallu dadansoddol sydd ei angen i gefnogi plismona ffyrdd effeithiol ar waith. Cydnabu mai rhan o’r ateb yn unig y gall yr heddlu ei gynnig ac roedd ganddo argymhellion i’r Swyddfa Gartref a’r Adran Drafnidiaeth wella cydgysylltu strategol. Hefyd, roedd anogaeth gref i adfywio partneriaethau lleol.

Ar adeg pan mae plismona yn tyfu eto, efallai nad yw’n syndod gweld yr adroddiad hwn yn galw am fwy o adnoddau ar gyfer y swyddogaeth arbenigol hon. Y broblem, serch hynny, yw bod plismona ffyrdd ymhell o fod ar ei ben ei hun yn y rhes sy’n aros am hwb i lefelau staffio.

Yn ddiweddar mae’r Arolygiaeth – byth yn swil wrth ddweud wrth brif gwnstabliaid ble y gellir gwario mwy o arian – wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n dwyn sylw at yr angen am adnoddau ychwanegol ym maes troseddau difrifol a threfnus yn ogystal ag ystafelloedd rheoli’r heddlu.

Ac mae’r adroddiad blynyddol ar Gyflwr Plismona gan Syr Thomas Winsor, Prif Arolygydd yr Heddlu, yn tynnu sylw at y gofynion y mae troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, argyfyngau llifogydd a’r rheiny â salwch meddwl, i enwi ond rhai, yn achosi.

Mae Syr Thomas hefyd yn nodi efallai nad recriwtio mwy o swyddogion, ar ei ben ei hun, yw’r ffordd orau o wario cynnydd mawr yng nghyllid yr heddlu.  Mae’n awgrymu, yn ei farn ef, na ddylid gwario’r cynnydd 20,000 ar swyddi swyddogion yr heddlu o reidrwydd.

Mae’n rhesymol dod i’r casgliad, felly, efallai nad yw plismona ffyrdd yn cael y lefel o hwb adnoddau a fyddai’n debygol o gyflawni’r gwelliannau y mae AEM Parr yn chwilio amdanynt yn ei adroddiad. Felly, ac fel sy’n digwydd bob amser pan fydd adnoddau’n dynn, bydd partneriaethau’n allweddol unwaith eto – yn y rheng flaen yn ogystal ag ar lefel strategol

Yn amlwg, mae hyn yn golygu gweithio â phartneriaid statudol, ond mae hefyd yn golygu croesawu dulliau o weithredu creadigol, arloesi technolegol a meddwl o’r newydd. Mae’r adroddiad yn gywir i ddwyn sylw at Ymgyrch Snap fel menter ragorol: anogir aelodau o’r cyhoedd i lwytho i fyny lluniau camera car o droseddau traffig, gan gyflwyno tystiolaeth barod i’r heddlu o achosion o dorri rheolau sy’n gallu bod yn ddifrifol iawn. Ond mae angen mynd ar drywydd hyn er mwyn cynnal hygrededd y cynllun.

Mae addysg yn ddewis amgen yn lle erlyniad

Yn Drivetech, rydym yn rhan annatod o elfen arall o blismona ffyrdd effeithiol, sef addysg – un o’r tri chynhwysyn hanfodol (gorfodi, addysg, peirianneg) sydd wedi gwneud gwahaniaeth i lefelau diogelwch ar ein ffyrdd.

“Ceir tystiolaeth helaeth a chynyddol bod defnyddio camerâu diogelwch a chynnig o addysg fel dewis amgen i erlyniad yn rhoi tebygolrwydd cryf o newid ymddygiad gyrwyr heb dagu’r llysoedd”.

Fel darparwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth o gyflymder, rydym yn croesawu ac yn cymeradwyo canfyddiadau’r adroddiad, mai’r “realiti yw bod defnyddio camerâu yn effeithiol o ran lleihau gwrthdrawiadau difrifol.” Ceir tystiolaeth helaeth a chynyddol bod defnyddio camerâu diogelwch a chynnig o addysg fel dewis amgen i erlyniad yn rhoi tebygolrwydd cryf o newid ymddygiad gyrwyr heb dagu’r llysoedd.

Mewn arolwg ym mis Gorffennaf 2020, anfonwyd cwestiynau (mewn partneriaeth ag UKROEd) at 20,000 o aelodau AA yn gofyn am sylwadau a chanfyddiadau ar rinweddau camerâu cyflymder ac addysg fel rhan o strategaeth ragweithiol i blismona’r ffyrdd.

Yn ôl yr arolwg roedd cefnogaeth ysgubol ar gyfer gorfodi cyflymder, ag 87% o ymatebwyr (o 18,500 o ymatebwyr) yn gyfan gwbl o blaid cynnig addysg (cyrsiau cyflymder) fel dewis amgen i bwyntiau a dirwy.

Fel cwmni arloesol, rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal y gwasanaeth hwn trwy symud cyrsiau ar-lein yn ystod y cyfnod clo: tra bod y wasg wedi adrodd am enghreifftiau di-rif o fodurwyr yn defnyddio ffyrdd gwag fel ‘traciau rasio,’ rydym wedi gallu darparu ymhell dros 100,000 o ymyriadau ailhyfforddi troseddwyr gyrwyr ar-lein.

Ceir digon o dystiolaeth, a ddyfynnwyd yn yr adroddiad, bod camerâu, yn gyffredinol yn cael eu defnyddio mewn ffordd wedi’i thargedu, gan ddefnyddio rhesymeg glir â chefnogaeth proses a fwriedir i gynnal hyder y cyhoedd.

Credwn fod hyn yn hanfodol bwysig oherwydd bod hygrededd – a hirhoedledd – y system yn dibynnu arno. Nid yw o fudd i neb weld camerâu, boed yn symudol neu’n sefydlog, yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd lle nad oes cyfiawnhad sy’n seiliedig ar risg dros eu lleoli yno.

Amser ar gyfer pragmatiaeth

Fy myfyrdod arhosol yn sgil darllen yr adroddiad yw, faint bynnag yw’r croeso ar gyfer y ffocws newydd ar blismona ffyrdd yn y misoedd diwethaf, mae angen i bragmatiaeth fod yn rhan ohono. Gyda chymaint o alwadau sy’n cystadlu mewn plismona, mae’n gwbl afrealistig dychmygu y bydd plismona ffyrdd yn cael adnoddau i’r lefel y mae HMICFRS yn anelu ati yn y tymor canolig.

Ac eto, mae heriau ein ffyrdd yn fwyfwy cymhleth, â heriau newydd yn ymddangos drwy’r amser, o gerbydau awtonomaidd i e-sgwteri. Ni all plismona ymdopi â hyn ar ei ben ei hun

Mae’n hanfodol bwysig dyfnhau’r gweithio mewn partneriaeth sydd eisoes yn bodoli ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, parhau i roi rôl i’r cyhoedd wrth ‘helpu eu hunain’ i gadw’r ffyrdd yn ddiogel, a chroesawu technolegau newydd arloesol wrth iddynt ddod ar gael.

 

 


Yn ôl i newyddion ac adnoddau