Ymunodd Des â Drivetech ym mis Mai 2017. Mae ganddo brofiad sylweddol o arwain yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar ôl ymgymryd â rolau ym maes cyfiawnder troseddol, iechyd ac addysg gyrwyr. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr TTC; Cyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Dinas Nottingham; Pennaeth Comisiynu ar gyfer Canser a Gofal Diwedd Oes i Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Swydd Derby, ac Arweinydd Gweithredol (Ieuenctid sy’n Troseddu) ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Dinas Derby.
Mae wedi cyflawni rolau ymgynghorol i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r Brifysgol Agored wrth adeiladu’r radd sylfaen a chymwysterau ymarferwyr mewn cyfiawnder troseddol. Cyn dod yn rheolwr, cymhwysodd Des a gweithio fel Swyddog Prawf.
Roedd Des yn ddigon ffodus i dreulio 12 mlynedd fel canolwr cynorthwyol Uwch Gynghrair yr FA a’r Gynghrair Bêl-droed. Mae’n briod â Caroline, mae ganddo ddau o blant a dwy wyres.
Mae Des wedi ymrwymo i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd.