Cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru: Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae terfynau cyflymder newydd sydd wedi’u dylunio i leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau ar ffyrdd preswyl yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o 17 Medi 2023.  Mae Llywodraeth Cymru yn lleihau’r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya o dan Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022[1]..

 

Ar ba ffyrdd fydd y newidiadau terfyn cyflymder newydd yng Nghymru’n effeithio?

Mae’r terfyn 20 mya yn berthnasol i bob ffordd gyfyngedig. Ffordd gyfyngedig yw unrhyw ffordd sydd â system o oleuadau stryd, felly yng Nghymru mae ‘goleuadau stryd yn golygu 20 mya’. Os oes terfyn cyflymder uwch ar ffordd â goleuadau stryd, fel 30 mya, 40 mya, neu 50 mya, mae’n rhaid cael arwyddion clir i ddynodi hyn. Nid yw traffyrdd wedi’u cynnwys ac maent yn destun i’w rheoliadau eu hunain.

 

Pam fod terfynau cyflymder newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru?

Bwriad y newidiadau yw rhoi mwy o hyder i gerddwyr a beicwyr wrth ddefnyddio’r ffyrdd, yn ogystal â lleihau nifer y marwolaethau ac anafiadau. Ni fydd beicwyr yn rhwym i’r terfynau cyflymder newydd ond bydd yn dal yn ofynnol iddynt ystyried defnyddwyr eraill y ffordd.

Yng Nghymru, mae 45% o wrthdrawiadau difrifol a 28% o farwolaethau yn digwydd ar ffyrdd 30 mya.  Mae amseroedd brecio yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yn y pellter mae’n cymryd car sy’n teithio ar 20 mya i stopio, bydd car 30 mya yn dal i fod yn teithio ar 24 mya.[2] Mewn gwirionedd, rydych bum gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar 30 mya nag ar 20 mya, felly bydd lleihau cyflymder traffig yn achub bywydau.

Canfu Arolwg Agweddau’r Cyhoedd ar Orchmynion Traffig ac 20 mya o 1,000 o bobl fod 81% o’r cyhoedd yn cefnogi’r newid, â 17% yn unig yn ei wrthwynebu.

 

Beth sydd angen i mi wybod o ran gyrru yng Nghymru o dan y rheolau newydd?

Mae angen i yrwyr roi hyd yn oed mwy o sylw i arwyddion terfynau cyflymder a chymryd gofal ychwanegol mewn strydoedd preswyl a phrysur i gerddwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau newydd. Mae hyfforddwyr Drivetech eisoes yn gyfarwydd â’r ddeddfwriaeth newydd, a gallant gynorthwyo cwmnïau sy’n ceisio sicrhau bod eu gweithwyr wedi’i hyfforddi’n llawn ac yn cydymffurfio, yn ogystal â’u helpu i ddeall a gwella ymddygiad gyrwyr a lles mewn tirwedd draffig sy’n newid yn gyflym.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys atebion i gwestiynau a ofynnir yn fynych, ar gael yma

 

[1] Templed ME ar gyfer is-ddeddfwriaeth (senedd.cymru)

[2] Cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

 

The introduction of 20 mph speed limits in Wales: What you need to know

New speed limits designed to reduce deaths and injuries on residential roads are being introduced in Wales from 17 September 2023.  The Welsh Government is reducing the speed limit from 30mph to 20mph under the Restricted Roads (20mph Speet Limit) (Wales) Order 2022[1].

 

What roads will be affected by the new speed limit changes in Wales?

The 20-mph limit applies to all restricted roads. A restricted road is any road which has a system of streetlights, so in Wales ‘streetlights mean 20-mph’. If a road with streetlights has a higher speed limit, such as 30-mph, 40-mph, or 50-mph, it must be clearly signed. Motorways are not included and are subject to their own regulations.

 

Why are new speed limits being introduced in Wales?

The changes are designed to give pedestrians and cyclists more confidence when using the roads, as well as to reduce both deaths and injuries. Cyclists will not be bound by the new speed limits but will still be required to show consideration to other road users.

In Wales, 45% of serious collisions and 28% of fatalities occur on 30mph roads.  Braking times make all the difference. In the distance it takes a car travelling at 20mph to stop, a 30mph car will still be doing 24mph.[2] In fact, you are five times more likely to be killed at 30 mph than 20 mph, so reducing traffic speeds will save lives.

The Traffic Orders and 20mph Public Attitudes Survey Public Attitudes Survey of 1,000 people found that 81% of the public support the change, with just 17% against.

 

What do I need to know when it comes to driving in Wales under the new rules?

Drivers need to pay even more attention to speed limit signs and take extra care in residential and busy pedestrian streets to ensure they are compliant with the new restrictions. Drivetech’s trainers are already familiar with the new legislation and can assist companies looking to ensure their employees are fully trained and compliant as well as helping them to understand and improve driver behaviours and well-being in a fast-changing traffic landscape.

More information including answers to frequently asked questions is available here.

[1] EM template for sub leg (senedd.wales)

[2] Introducing 20mph speed limits: frequently asked questions | GOV.WALES

 

 

 

 


Yn ôl i newyddion ac adnoddau