Efallai eich bod wedi sylwi bod y ffyrdd wedi bod yn llawer tawelach! Dyma sgil-gynnyrch uniongyrchol o’r cyfyngiadau symud. Er gwaethaf y newid diweddar gan y llywodraeth o neges “Aros Gartref” i “Aros yn Wyliadwrus”, a cham petrus yn ôl i weithleoedd i rai, mae’r ffyrdd yn dal yn gymharol dawel â newydd-deb bron ddim tagfeydd, ffyrdd agored a thawelwch iasol ar adegau.
 
Mae hyn, wrth gwrs, yn golygu bod temtasiwn mawr i fanteisio ar y teimlad newydd hwn o “ryddid y ffordd agored”, neu ffactorau eraill sydd, o bosibl, yn dylanwadu ar yr ymddygiad fel mwy o bryder a thynnu sylw.
 
Ni fyddai’n amser drwg i atgoffa eich gyrwyr am eich polisïau gyrru, a’ch canllawiau ymarfer gorau, eich hun – yn enwedig temtasiwn i yrru’n rhy gyflym ar y ffyrdd tawelach hyn.
 
Fel yr adroddwyd yn eang yn y wasg, mae’r Heddlu’n profi rhai digwyddiadau eithafol o yrru’n rhy gyflym ar draws y wlad, ac ar adeg pan mae gwasanaethau brys yn canolbwyntio’n fawr ar yr ymateb rheng flaen i bandemig Covid-19, gallem wneud heb y draenio ychwanegol ar adnoddau critigol i ‘mopio i fyny’ ar ôl digwyddiad traffig ffordd y gellir ei osgoi.
 
Mae’r Ditectif Uwch-arolygydd Andy Cox, arweinydd Heddlu’r Met ar gyfer Vision Zero wedi dweud eu bod yn profi gyrru llawer yn rhy gyflym yn ardal Llundain a dywedodd: “Mae gyrru’n rhy gyflym yn ffocws llwyr oherwydd dyma’r achos amlycaf o wrthdrawiadau angheuol a difrifol. Ymhlith y themâu eraill a dargedwyd, mae’r pedair trosedd angheuol sy’n weddill: tynnu sylw gan ffôn, gwregys diogelwch, gyrru dan ddylanwad diod/cyffuriau a gyrru heb yswiriant.
 
Yn ôl ffigyrau’r Heddlu Metropolitan, mae llai o dagfeydd yn gysylltiedig â COVID19 wedi arwain at ‘yrwyr eithafol o gyflym’ sy’n peryglu bywydau:

  • Mae defnydd o’r ffordd i lawr 50-60%
  • Mae cyflymderau cyfartalog wedi cynyddu ym mhob parth cyflymder
  • Mae un o bob tair ffordd a wiriwyd yn dangos cynnydd cyflymder cyfartalog o fwy na 10%
  • Mae cyflymderau cyfartalog mewn parthau 20, 40 a 60mya yn uwch na’r terfyn cyflymder.
  • Mae rhai o’r ffyrdd a wiriwyd yn dangos cynnydd cyflymder cyfartalog o fwy na 50%
  • Mae Llundain wedi gweld cynnydd mewn cyflymderau eithafol; 151mya oedd y uchaf ond llawer yn agos ato.
  • Mae Heddlu’r Met yn prosesu ‘gyrwyr sy’n gyrru’n eithafol o gyflym’ i’r system Llysoedd o fewn tri diwrnod gwaith

Parhaodd D.S. Andy Cox: “Ar hyn o bryd, nid yw gyrru’n rhy gyflym yn annerbyniol yn gymdeithasol ac nid yw’r rheiny sy’n gyrru’n rhy gyflym yn cael eu gwirio. Mae angen inni newid hyn. Rhaid i’r cyhoedd herio eu teulu, eu ffrindiau a’u hunain i beidio â gyrru’n rhy gyflym a, thrwy wneud gyrru’n rhy gyflym yn gymdeithasol annerbyniol, dylanwadu ar newid gwirioneddol mewn ymddygiad a safonau gyrru.”
 
Felly gallai hwn fod yn amser da i atgoffa eich cymuned yrru i yrru’n ddiogel ac o fewn y terfynau cyflymder.


Yn ôl i newyddion ac adnoddau