Mae Drivetech yn falch iawn i gyhoeddi, yn dilyn tendr cystadleuol, eu bod wedi cadw contract Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) i ddarparu cyrsiau croesfan reilffordd. Ar ôl gweithio â BTP ers mis Hydref 2011, roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Drivetech oherwydd bod dros 2,000 o bobl y flwyddyn yn dilyn eu Cwrs Croesfan Reilffordd.

Disgrifiodd BTP ymateb Drivetech fel un ‘rhagorol’ a dyfarnodd sgôr iddynt i adlewyrchu cyflwyniad bron â bod yn berffaith. Hefyd, gwnaethant sylwadau ar gyflawniad rhagoriaeth i gwsmeriaid y contract yn ystod cyfnod blaenorol y contract.

Yn ôl ym mis Mehefin eleni, cododd Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu pryderon ynglŷn â’r cynnydd dramatig yn nifer y bobl sy’n peryglu eu bywydau ger croesfan reilffordd ar ôl cynnydd mawr yn nifer y bobl nad ydynt yn eu defnyddio’n gywir. Ar gyfer gyrwyr, anwybyddu arwyddion rhybudd coch/melyn a/neu rwystrau ac yna mynd ymlaen i yrru dros groesfan reilffordd yw un o’r ymddygiadau gyrru mwyaf peryglus sy’n golygu bod gyrrwr/teithwyr y trên; aelodau o’r cyhoedd a theithwyr yn y cerbyd mewn perygl sylweddol o niwed.

Wrth sôn am y fuddugoliaeth, dywedodd Des Morrison, Cyfarwyddwr Busnes Heddlu a’r Sector Cyhoeddus: “Rydym wrth ein bodd i barhau i weithio â BTP i helpu i addysgu pobl am y peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio croesfannau rheilffordd yn anghywir – wedi’r cyfan, cadw pobl yn ddiogel sy’n gyrru Drivetech – ar y ffordd ac oddi arni. Mae troseddau croesfan reilffordd yn parhau i roi diogelwch y cyhoedd a theithwyr mewn perygl mawr.”


Yn ôl i newyddion ac adnoddau