Drivetech, cangen yr AA sy’n delio ag addysg gyrwyr a rheoli risg, yw’r busnes cyntaf i wneud y newid arloesol, y mae Coronafeirws wedi’i orfodi, o addysg gyrwyr yn yr ystafell ddosbarth i addysg gyrwyr ddigidol.

Gan weithio’n gyflym â UKROEd a’r heddlu, mae dros 500 o bobl eisoes wedi cwblhau gweithdy ar-lein Drivetech yn llwyddiannus, a aeth yn fyw lai nag wythnos ar ôl Cyfyngiadau Symud COVID-19. Mae fersiwn ar-lein y cwrs wedi’i gwtogi i 2 1/2 awr o’r cwrs 4 awr yn yr ystafell ddosbarth.
 
Roedd y ‘tro ar sawdl’ rhyfeddol hwn yn bosibl trwy gydweithio â Microsoft a Gwasanaethau Digidol Ricoh i ddarparu llwyfan digidol diogel, dibynadwy a hygyrch (Microsoft Teams). Mae ymateb cyflym Drivetech â chefnogaeth Microsoft yn sicrhau na fydd miloedd o fodurwyr ar eu colled o ran addysg trwy sicrhau bod fersiwn ar-lein o’r cwrs ymwybyddiaeth o gyflymder ar gael ar ôl iddynt ddewis cwrs ystafell ddosbarth eisoes cyn y cyfyngiadau symud.
 
Mandad craidd y cyrsiau yw sicrhau newid mewn ymddygiad er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Roedd Drivetech a UKROEd yn benderfynol o beidio â chaniatáu i COVID-19 amharu ar y neges addysgol bwerus hon, a ddyluniwyd i gadw ein ffyrdd yn fwy diogel. Gellid dadlau bod hyn hyd yn oed yn bwysicach yn yr hinsawdd sydd ohoni – gan ganiatáu i’r rhai sydd angen defnyddio’r ffyrdd am resymau hanfodol – fel y gwasanaethau brys a gweithwyr allweddol eraill – bod yn hyderus y gallant wneud hynny’n ddiogel ac yn effeithlon.
 
Wrth sôn am y cynnydd cyflym a wnaed, dywedodd Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr Drivetech “Rydym wedi bod wrth ein bodd â phroffesiynoldeb a hyblygrwydd ein hyfforddwyr cymwysedig ledled y wlad i addasu i’r dull newydd hwn o ddarparu, a’u parodrwydd i ymateb â chyflymder a brwdfrydedd. Yn yr un modd, mae’r dewis o lwyfan darparu ar-lein yn bwysig oherwydd bod angen i’r rhain fod yn gyrsiau proffesiynol, wedi’u darparu gan hyfforddwyr proffesiynol ar lwyfan digidol proffesiynol a diogel fel Microsoft Teams”.
 
Mae Drivetech bellach yn gweithio trwy’r mynychwyr hynny sydd eisoes wedi archebu lle i sicrhau y gellir delio â’r rheiny sydd â “dyddiad tyngedfennol” sydd ar fin digwydd (pam mae’r awdurdod heddlu wedi pennu y mae angen cwblhau’r cwrs erbyn dyddiad penodol) yn gyntaf. Maent yn mynd ati’n rhagweithiol i gysylltu â’r rheiny sydd eisoes yn fynychwyr a chael cymaint ar y cyrsiau ar-lein â phosibl, gan weithio’n galed y tu ôl i’r llenni i gynyddu capasiti’r cwrs yn gyflym dros y dyddiau nesaf.
 
Dywedodd Des Morrison, Cyfarwyddwr Heddlu Drivetech “Mae ein rhiant-gwmni, yr AA, yn cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, felly rydym hefyd yn diogelu opsiwn diogelwch ar y ffyrdd. Ni all y GIG fforddio i anafusion y ffyrdd gymryd adnoddau gwerthfawr pan fydd angen i’r flaenoriaeth ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r feirws”.

Dysgwch fwy am symudiad Drivetech o ddarparu mewn lleoliad i’r ystafell ddosbarth ddigidol ar-lein yma.


Yn ôl i newyddion ac adnoddau