Drivetech yn dryllio’r mythau 20mya mwyaf cyffredin i yrwyr

 

Mae Drivetech, rhan o’r AA, a darparwr hyfforddiant gyrwyr blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol, yn annog gyrwyr sy’n dod i arfer â’r terfyn cyflymder gyrru newydd yng Nghymru i flaenoriaethu diogelwch, wrth iddynt rannu rhestr sy’n dryllio’r mythau 20mya mwyaf cyffredin.

Daeth i rym ar 17eg Medi 2023, ac mae’r terfyn newydd yn berthnasol i bob ffordd gyfyngedig ledled Cymru, sy’n cael eu diffinio fel ffyrdd sydd â system goleuadau stryd. 30mya oedd terfyn cyflymder y ffyrdd hyn, ond gostyngwyd y terfyn i gynyddu diogelwch, gwella hyder ar y ffyrdd ac achub bywydau. Mae astudiaethau wedi dangos bod 45% o wrthdrawiadau difrifol a 28% o farwolaethau yng Nghymru’n digwydd ar ffyrdd 30mya.

Bydd y gyfraith yn dechrau cael ei gorfodi’r mis hwn, ar ôl cyfnod o gynefino cychwynnol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y newid yn achub hyd at naw o fywydau, ac yn atal bron i 100 o anafiadau difrifol, bob blwyddyn.

Dywedodd Nick Butler, Cyfarwyddwr, Drivetech: “Mae’r terfyn newydd, sydd â’r bwriad o hybu hyder cerddwyr a beicwyr ar y ffyrdd, yn newid y gêm go iawn o ran ei botensial i leihau’r risg o farwolaethau ac anafiadau.  Peidiwch ag anghofio bod cerddwyr a gyrwyr, fel ei gilydd, eisiau ffyrdd mwy diogel. Pan fyddwn y tu ôl i’r olwyn, yr her yw codi y tu hwnt i’n hwylustod ein hunain er lles pawb.

“Mae terfyn cyflymder is yn cyfrannu at ffyrdd mwy diogel, lleihau difrifoldeb damweiniau a darparu mwy o amser ymateb i yrwyr a cherddwyr. Mae cofleidio cyflwyniad y terfyn 20 milltir yr awr yn ymrwymiad ar y cyd i flaenoriaethu diogelwch.”

Mae Drivetech wedi llunio rhestr sy’n trafod y mythau 20mya mwyaf cyffredin, ar sail gwybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhannu.

 

A fydd hi’n cymryd mwy o amser i gyrraedd pen fy nhaith?

Na fydd. Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod tystiolaeth yn awgrymu bod y newid i derfyn diofyn o 20mya wedi cael effaith finimol ar amseroedd teithio.

 

A fydd y terfyn cyflymder newydd yn niweidio fy injan?

Gall ceir modern yrru ar 20mya heb niweidio’r injan na’r cydrannau. Rhoddodd Sbaen derfyn cyflymder safonol o 30KMya (19mya) ar waith mewn ardaloedd trefol yn 2021, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o ddifrod i gerbydau yn deillio o yrru ar y terfyn diofyn newydd hwn, tra bod nifer y cerddwyr a laddwyd yn yr ardaloedd hyn wedi gostwng 13%, o’i gymharu â data cyn y pandemig.

 

A fydd gyrru 20mya yn golygu fy mod yn defnyddio mwy o danwydd?

Na fydd. Y ffordd rydyn ni’n gyrru sy’n dylanwadu’n bennaf ar y defnydd o danwydd. Mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio a dechrau. Mae arddull gyrru llyfn, cyson yn atal cyflymu ac arafu diangen, gan arbed tanwydd.

Gall cyflymu i 30mya gymryd dwywaith cymaint o ynni â chyflymu i 20mya.

 

A yw’r terfyn cyflymder wedi gostwng i 20mya ar bob ffordd 30mya?

Naddo. Er y bydd y newidiadau yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya, mae’n bwysig nodi na fydd pob ffordd yn cael ei heffeithio. Mae map sy’n dangos y ffyrdd sy’n cadw’r terfyn 30mya ar gael ar MapDataCymru. Os oes terfyn cyflymder uwch ar ffordd â goleuadau stryd, fel 30 mya, 40 mya, neu 50 mya, mae’n rhaid cael arwyddion clir i ddynodi hyn.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin 


Yn ôl i newyddion ac adnoddau