Mae’n codi calon Drivetech i weld bod Plismona’r Ffyrdd yn gwneud ei ffordd yn ôl i’r agenda eto.

Mae sawl adroddiad diweddar, gan gynnwys un Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros yr Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub wedi taflu goleuni ar swyddogaeth sydd wedi’i hesgeuluso braidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Yn fwy diweddar, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth adolygiad o blismona ffyrdd. Dechreuodd y broses hon, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r Swyddfa Gartref a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, â phroses ymgynghori a galwad am dystiolaeth, o dan arweiniad y Farwnes Vere, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol. Roedd y broses yn rhannol yn ymateb i’r newid yn yr amgylchedd ffyrdd, yn ogystal â’r lefelu o ran nifer yr anafusion, a’i nod oedd agor y drws i ffyrdd newydd o feddwl, yn ogystal â deall opsiynau sefydledig yn well a’u defnyddio.

Cyflwynodd Drivetech ymateb i’r ymgynghoriad i fynegi ein diddordeb yn y materion dan sylw ac i rannu ein dadansoddiad o’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau. 

 


Yn ôl i newyddion ac adnoddau