Erthygl o Policing Insight wedi’i hailadrodd yma:

A ydym ni’n barod ar gyfer ailwampiad mwyaf erioed gofynion diogelwch cerbydau gorfodol?
 

Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr, Drivetech
 
Yn y drydydd mewn cyfres o erthyglau, mae Charlie Norman o Drivetech yn archwilio papur gwyn newydd ar newidiadau arfaethedig i geir newydd a werthir yn y DU o 2024. Mae’n dadlau bod angen adolygiad cynhwysfawr o’r rheolau presennol o ran parodrwydd gyrrwr i fod ar y ffordd. Gall cerbydau mwy cymhleth ar ffyrdd mwy prysur, â lefelau is o blismona ar y ffyrdd, esbonio pam nad yw gwell offer diogelwch wedi cael yr effaith a ddymunir.
 
Yn fy erthygl flaenorol ar gyfer Policing Insight, disgrifiais sut mae Drivetech wedi bod yn ymwneud â rheoli’r sefyllfa eithriadol bresennol rydym i gyd yn ei hwynebu. Yn y darn hwn, byddaf am edrych i’r dyfodol ac yn rhagweld newidiadau y cytunwyd arnynt eisoes a fydd yn arwain at oblygiadau i bawb sy’n ymwneud â phlismona ein ffyrdd. Mae’n ganlyniad i gydweithio rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Sefydliad Iechyd y Byd sydd wedi bod yn gweithio â’i gilydd i adfywio’r duedd tuag i lawr o ran nifer yr anafusion ar y ffyrdd.
 
“Mae rhai risgiau pryderus yn gysylltiedig â chroesawu’r dechnoleg newydd – risgiau a ddylai fod yn destun pryder i’r gymuned plismona ffyrdd.”
 
Yn dilyn asesiad o’r dulliau mwyaf tebygol o leihau marwolaethau a gwella diogelwch ar y ffyrdd, cyhoeddodd Comisiwn yr UE adroddiad ar gyfer Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2016 o’r enw “Saving Lives: Boosting Car Safety in the EU”. Darparodd hwn y sail ar gyfer deddfwriaeth newydd sy’n ymdrin â dyluniad cerbydau newydd ar draws yr aelod-wladwriaethau. Cynigiwyd deddfwriaeth newydd yn 2018 a’i deddfu ar 27 Tachwedd 2019 ar ffurf ddiwygiedig ac, er bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i fabwysiadu’r rheolau newydd.
 
O dan y rheoliadau newydd, bydd yn rhaid i bob car, fan, Cerbyd Cyfleustodau Chwaraeon a thryc agored newydd gael amrywiaeth o nodweddion diogelwch wedi’u gosod fel rhai safonol. Mae’r rhain yn cynnwys:
 
Cymorth cyflymder deallus – neu gyfyngwyr cyflymder, sy’n gallu lleihau pŵer injan i atal y cerbyd rhag cael ei yrru ar gyflymder gormodol

Uwch system brecio mewn argyfwng, sy’n canfod gwrthdrawiadau posibl yn awtomatig ac yn brecio brys heb unrhyw ymyrraeth gan y gyrrwr

System cadw at lôn mewn argyfwng, i lywio’r cerbyd yn ôl i’r lôn os deuir o hyd i berygl

System rhybuddio gadael lôn, i rybuddio’r gyrrwr os yw cerbyd yn symud allan o lôn

Rhybudd sylw a gyrrwr cysglyd, i ddefnyddio data o systemau’r cerbyd i asesu effrogarwch y gyrrwr a rhoi rhybuddion os oes angen

Rhybudd tynnu sylw’r gyrrwr, yn helpu’r gyrrwr i barhau i roi sylw ac yn rhybuddio’r gyrrwr pan fydd rhywbeth wedi tynnu ei sylw

Recordydd data digwyddiadau, i bob pwrpas yn fath o “flwch du,” fel sy’n cael ei ddefnyddio mewn awyrennau i gofnodi gwybodaeth cyn, yn ystod ac yn syth ar ôl gwrthdrawiad.

Nid yw’r rhestr yn gorffen yno: mae yna ddarpariaethau hefyd ar gyfer canfod gyrru tuag yn ôl, monitro pwysedd teiars, a signal stop mewn argyfwng a hyd yn oed rhyngwyneb i osod dyfais cyd-gloi alcohol. Mae’n amrywiaeth pensyfrdanol o dechnoleg sydd â’r nod o gael effaith enfawr ar ffactorau risg wrth yrru. Siawns nad yw hyn yn beth diamwys o dda?
 
“Nid yw’n glir o bell ffordd y bydd y gyrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r offer newydd yn ddiogel.”
 
Yn Drivetech, gwnaethom gomisiynu arbenigwyr yn y diwydiant i geisio ateb y cwestiwn hwnnw a’r canlyniad yw papur gwyn y gwnaethom ei gyhoeddi yn ddiweddar. Seiliwyd yr adroddiad ar ymchwil gan Ian Bint, cyn-bennaeth plismona’r ffyrdd yn Ne Swydd Efrog a rhoddodd llawer o sylw i gyfraniadau Dr Helen Wells, cyfarwyddwr Rhwydwaith Academaidd Plismona’r Ffyrdd. Darganfu’r papur bod rhai risgiau pryderus yn gysylltiedig â chroesawu’r dechnoleg newydd – risgiau a ddylai fod yn destun pryder i’r gymuned plismona ffyrdd. Mae rhai o’r risgiau hyn yn ymwneud â’r offer ei hun a rhai â’u heffaith ar yrwyr.
 
Yn gyntaf, nid yw’n glir o bell ffordd y bydd y gyrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r offer newydd yn ddiogel. Mae’n gŵyn gyffredin gan berchnogion newydd cerbydau sy’n dechnolegol datblygedig nad ydynt yn cael digon o sesiwn drosglwyddo neu friffio gan werthwyr moduron neu gwmnïau prydlesu cerbydau ynglŷn â sut i’w defnyddio. Yn ôl union natur y cerbydau, mae’n debygol ein bod yn sôn am yrwyr mwy aeddfed a phrofiadol yn y farchnad heddiw: pan gyflwynir y mesurau newydd, byddant yn berthnasol i bob cerbyd a phob gyrrwr – nid nifer fach o gefnogwyr brwdfrydig technoleg newydd yn unig.
 
Yn ail, mae perygl y bydd y systemau’n achosi ymdeimlad ffug o ddiogelwch. Gall gyrwyr, fel unrhyw weithredwyr systemau, fynd yn ddiog ac (yn yr achos hwn) ildio gwneud penderfyniadau i’r cerbyd a methu ag adnabod sefyllfaoedd peryglus eu hunain. Mewn gwirionedd, maent yn dod yn deithiwr yn y sedd yrru. Ar ein ffyrdd prysur, mae’r peryglon yn amlwg ac wrth i’r Adran Drafnidiaeth ragweld twf mewn traffig ar y rhwydwaith ffyrdd strategol, sef cynnydd 46% rhwng 2010 a 2040, ni fydd y perygl hwnnw ond yn tyfu.
 
“Os yw’r chwilotwr sy’n cael ei actifadu gan lais ar eich cyfrifiadur yn gweithio’n gywir am 95% o’r amser, gall fod yn ddyfais ddefnyddiol i arbed llafur. Mae nodwedd diogelwch hanfodol ar gerbyd sy’n teithio ar 70mya, sy’n dueddol o wneud camgymeriad mewn un o bob 20 achos, yn fater hollol wahanol”.
 
Yn drydydd, datgelodd y papur gwyn fod gan rai o’r technolegau hyn gyfraddau gwall dychrynllyd o uchel. Y cynllun yn wreiddiol oedd i lawer o’r technolegau fod “ar waith drwy’r amser” ond mae’r gallu i’w diffodd wedi’i gynnwys oherwydd y deellir y byddant yn agored i wallau o bryd i’w gilydd – hyd at 5% o’r amser mewn gwirionedd. Mae hynny’n fy mhoeni. Os yw’r chwilotwr sy’n cael ei actifadu gan lais ar eich cyfrifiadur yn gweithio’n gywir am 95% o’r amser, gall fod yn ddyfais ddefnyddiol i arbed llafur. Mae nodwedd diogelwch hanfodol ar gerbyd sy’n teithio ar 70mya, sy’n dueddol o wneud camgymeriad mewn un o bob 20 achos, yn fater hollol wahanol.
 
Nid yw offerynnau sylfaenol cerbyd ar ffyrdd Prydain wedi newid llawer yn y 50 mlynedd hyd at 2010 ond mae’r degawd diwethaf wedi gweld trawsnewidiad dramatig. Heddiw, mae gyrwyr sy’n derbyn ceir o’r radd orau heddiw yn wynebu dyfais anghyfarwydd iawn, sy’n gymhleth iawn yn dechnolegol. Nid gor-ddweud yw bod eu cymhlethdod yn fwy na chymhlethdod awyrennau neu drenau elfennol hyd yn oed, ac eto mae peilotiaid a gyrwyr locomotif yn cael ailhyfforddiant ac asesiad rheolaidd, disgybledig.
 
Wrth i’n cerbydau ddod yn fwyfwy cymhleth a’u nodweddion diogelwch yn fwy ymwthiol, ac wrth i gyflymder newid y nodweddion hynny gynyddu’n anochel, mae’n amser agor y ddadl ynglŷn â threfniadau trwyddedu ar gyfer gyrwyr. Mae llawer wedi teimlo ers amser maith nad yw caniatáu i yrrwr ddibynnu, drwy gydol eu bywydau fel oedolyn, ar brawf a gymerwyd ganddynt, o bosibl, yn eu harddegau, yn ddigonol.
 
Credaf fod cyflwyno’r mesurau diogelwch gorfodol hyn yn gyfle delfrydol i ystyried trefn ar gyfer hyfforddiant i yrwyr gydol oes yn y dyfodol. Rydym yn argyhoeddedig bod angen rhywfaint o ail-addysgu i sicrhau y bydd y newidiadau a gaiff eu cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf yn cyflawni eu huchelgais i wella diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r tîm yn Drivetech yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y ddadl angenrheidiol honno.

Cofrestrwch ar gyfer Gweminar Drivetech/Policing Insight

Mae Policing Insight a Drivetech wedi dod at ei gilydd i gynnig gweminar i ddarllenwyr “Are we ready for the biggest ever overhaul of mandatory vehicle safety requirements?” i drafod goblygiadau’r Papur Gwyn ac ystyried ei oblygiadau ar gyfer dyfodol plismona’r ffyrdd. Gallwch glywed gan awdur yr adroddiad yn ogystal â phanel arbenigol, gan gynnwys Dr Helen Wells, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Academaidd Plismona’r Ffyrdd a John Apter, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr. Cynhelir y weminar ddydd Iau 18fed Mehefin 2020 rhwng 11am a hanner dydd, a gallwch gofrestru i ymuno â hi yma.


Yn ôl i newyddion ac adnoddau