Clinig Galw Heibio wedi’i gynnal gan Dr Col

Y Clinig Galw Heibio oedd ymateb Drivetech i’r unigrwydd sydyn a orfodwyd wrth weithio gartref o ganlyniad i bandemig COVID-19. Roedd y clinig yn cynnwys fforwm sgwrsio, manylion cyswllt eu swyddogion cymorth cyntaf ym maes iechyd meddwl a darllediad wythnosol byw o dan arweiniad Dr Col, sef Colin Paterson, Pennaeth Marchnata.

Rhan o hwyl ac ymgysylltiad y grŵp hwn oedd y ffaith nad oedd Dr Col yn ymarferydd meddygol mewn gwirionedd, a mynegwyd hyn yn glir iawn wrth gwrs – roedd ei drosolwg yn un tafod-mewn-boch ac yn barodi di-droi’n-ôl yn wyneb pandemig difrifol iawn sy’n bygwth iechyd.

Ddydd Gwener diwethaf profwyd cymysgedd o ddathlu a thristwch wrth i Drivetech ffarwelio â Dr Col. Roedd y Clinig Galw Heibio wythnosol, roedd ‘Dr Col’ yn ei gynnal â chymorth Nyrs Leanne, sef Leanne Hayes, Rheolwr Marchnata, yn gymysgedd o ymgysylltu hwyliog ac ysgafn â diweddariad bob wythnos gan Reolwr Gyfarwyddwr Drivetech, Charlie Norman, ynghyd â chynnwys busnes arall a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff, gan greu ymdeimlad cryf o berthyn.

Bellach mae Dr Col wedi hongian ei stethosgop i fyny am y tro olaf. Y gwir yw, doedd ganddo ddim dewis, nid oedd byd yr enwogion yn gallu delio â Dr arall yn y dref…

  • Anfonodd Dr Hilary Jones neges fideo bersonol yn dweud wrth Dr Col i gau ei geg
  • Yna anfonodd Piers Morgan neges fideo bersonol, gan ddweud wrtho ei fod yn dwyllwr

 

Rhoi i’r GIG
Roedd cyfraniadau fideo personol ein gwesteion enwog arbennig yn hwb mawr i forâl tîm Drivetech. I ddweud diolch wrth Dr Hilary Jones a Piers Morgan, mae Drivetech wedi gwneud rhodd i Elusennau’r GIG Gyda’n Gilydd trwy eu Tudalen Virgin Money Giving er clod iddynt.
 
Lles Gweithwyr
Roedd y sesiynau’n boblogaidd iawn ymhlith tîm Drivetech – dyma rai o’r sylwadau diweddar:

“Cawsant y rhagwelediad i greu sesiynau Dr Col sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae hyn wedi galluogi’r busnes i gyfathrebu â phob gweithiwr o ran diweddariadau busnes, newidiadau i’n hamgylchedd gwaith, sicrhau bod pawb ohonom wedi ymgysylltu a rhoi teimlad o les i ni. Mae’r cynnwys wedi bod yn hwyl, yn ddiddorol ac erbyn hyn mae Dr Col yn chwedl ynddo’i hun.”

“Mae’r angerdd y mae Colin a Leanne wedi’i roi i sesiynau Dr Col yn ysbrydoledig. Yn ogystal â’u llwyth gwaith ‘busnes fel arfer’ eu hunain, maent wedi creu sesiynau diddorol, addysgiadol ac unigryw yn gyson, sydd wedi ysgogi tîm Drivetech yn ystod ychydig fisoedd heriol iawn.” 

Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFAs)
Yn ddiweddar mae Drivetech a’r AA wedi recriwtio Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl newydd fel rhan o’u strategaeth lles ehangach. Ar hyn o bryd mae’r aelodau newydd o staff yn cwblhau eu hyfforddiant â Mental Health First Aid England. Yna byddant yn ymuno â’r tîm MHFA presennol i gefnogi ein gweithwyr. O ganlyniad i Covid-19, mae pawb ohonom wedi bod yn mynd trwy set hollol newydd o newidiadau yn ddiweddar a allai fod wedi dod â rhai heriau neu straen â hwy ac mae’r tîm MHFA yn amhrisiadwy.

Drivetech Trwy Ffenestr y Car
Wrth i weithwyr Drivetech barhau i weithio gartref, mae lles ac ymgysylltiad gweithwyr yn parhau i fod ar flaen meddwl Rheolwr Gyfarwyddwr MD Drivetech, Charlie Norman. Wrth sôn am y fenter newydd, Drivetech Trwy Ffenestr y Car, dywedodd: “Yn ein harolwg diweddar o les staff ar draws cwmni AA, mae Drivetech a ‘Dr Col’ yn amlwg wedi cyrraedd y nod a chafwyd adborth cadarnhaol gwych gan ein gweithlu. Yr eisin ar y gacen oedd cael cyfranogiad mor wych a charedig gan yr enwogion ar hyd y ffordd ac rydym yn falch iawn o roi ychydig yn ôl i Elusennau’r GIG Gyda’n Gilydd. Rydym bellach wedi ein sbarduno i barhau ac wedi ymrwymo i gadw ymgysylltiad staff yn uchel wrth iddynt weithio o bell â’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Drivetech Trwy Ffenestr y Car.”


Yn ôl i newyddion ac adnoddau