Yn gynharach eleni, gwnaethom adnewyddu ein harddull frandio, yn fwyaf nodedig â datganiad cenhadaeth newydd: ‘Drivetech – gan yr AA. Cadw pobl yn ddiogel sy’n ein gyrru’. Bellach rydym wedi lansio gwefan newydd sydd, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys ffocws byd-eang newydd.

Rydym wedi gweithio’n agos â Rooster Marketing, asiantaeth farchnata ddigidol, i sicrhau y byddai’r wefan wedi’i hail-ddylunio yn helpu i gyflawni ein hamcanion busnes craidd ac yn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well, wrth gynrychioli’r ddelwedd brand newydd yn strategol ac yn effeithiol.

Mae’r wefan newydd yn cynnig gosodiad glanach i ddefnyddwyr, strwythur llywio syml a swyddogaethau hawdd eu defnyddio. Trwy’r dyluniad hawdd ei lywio hwn, gall defnyddwyr archebu eu lle ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder ar-lein, a’i reoli, a dysgu mwy am ein busnes masnachol, gan gynnwys ein cynnyrch a gwasanaethau rheoli risg gyrwyr byd-eang. Hefyd, gall defnyddwyr gysylltu â ni trwy’r safle. 

Mae gan y wefan gynnwys ffres a diddorol ac mae hefyd yn gwbl ymatebol, sy’n golygu ei bod yn hawdd ei defnyddio ar lu o ddyfeisiau, gan gynnwys cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, dyfeisiau symudol a llechi.

Rydym yn arweinydd yn y DU o ran darparu cyrsiau troseddwyr gyrrwr dan gyfeiriad yr heddlu, ac mae gwelliannau o ran diogelwch ar y ffyrdd a diogelwch pobl wrth ein gwraidd. Mae’n bwysig felly bod mynychwyr sy’n cael eu cyfeirio atom yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym ac yn hawdd, er mwyn iddynt allu archebu eu lle ar gwrs ar-lein.

Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Charlie Norman, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn falch i gyflwyno ein gwefan newydd i’r byd. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed, gan ystyried ein cwsmeriaid amrywiol ac er bod rhai gwahaniaethau o ran strategaethau a gofynion diogelwch ar y ffyrdd rhwng ein busnes Heddlu a’n busnes Masnachol, y nod a rennir yw cadw pobl yn ddiogel.” 


Yn ôl i newyddion ac adnoddau