Buddion y cwrs

Cwrs Ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Cyfleus
Dechreuwch y cwrs ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi. Hawdd archebu lle ar-lein

Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Wedi’i ddarparu gan Gymorth i Ddioddefwyr
Wedi’i ddarparu gan hyfforddwyr Cymorth i Ddioddefwyr achrededig

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Cwrs Ymwybyddiaeth o Ddioddefwyr (VAC) yn opsiwn addysgol ac adsefydlol i droseddwyr sydd wedi cyflawni trosedd lefel isel, ac sydd wedi cael eu dargyfeirio o’r llys gan yr heddlu trwy roi Rhybudd Amodol neu Ddatrysiad Cymunedol.

Nid yw’r cwrs yn codi cywilydd ar unigolion, yn eu barnu, nac yn eu dwyn i gyfrif am y drosedd a gyflawnwyd. Ac ni fydd yr hyfforddwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn gofyn i unrhyw un yn y grŵp siarad am eu trosedd.

Ni fydd pobl sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (ac unrhyw amodau eraill a bennir gan yr heddlu) yn cael eu herlyn am y drosedd wreiddiol.

Mae’r cwrs yn para 3 awr.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fynd â chi ar daith sydd:

  • Yn eich helpu i feddwl am effaith eich gweithredoedd ar ddioddefwyr, anwyliaid a chi eich hun
  • Yn eich annog i feddwl am yr hyn y gallech ei wneud yn wahanol yn y dyfodol
  • Yn caniatáu i chi weithio ar weithgareddau â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chi

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon