Cyffredinol

Alla i ddim mewngofnodi – ydw i’n cael trafferth cysylltu?
Edrychwch ar y canllawiau ar ein gwefan Drivetech i gael cymorth technegol ynglŷn â sut i fewngofnodi i’r porth. Dylech edrych ar eich cyfarwyddiadau ymuno i gael y ddolen i ymuno â’r cwrs. Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i ganllawiau trydydd parti defnyddiol am sut i wella eich signal rhyngrwyd gartref yma: https://www.bbc.co.uk/news/business-52027348

Nid oes gen i gamera ar fy nyfais gyfrifiadurol – alla i fynychu?
Mae’n rhaid i chi gael cyfleuster camera ar y ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad at y cwrs ar-lein. Mae angen i’r hyfforddwr weld eich bod yn bresennol drwy gydol y cwrs yn ogystal â gwirio eich ID cyn i chi ymuno â’r prif gwrs.

  • Oes gennych chi ffôn deallus sydd â chamera oherwydd gellir defnyddio hwn?
  • Fel arall, a oes unrhyw un yn eich cartref sydd â dyfais â chamera y gallwch ei defnyddio?

Oherwydd bod hwn yn ddewis amgen i erlyniad, eich dewis arall bydd penderfyniad yr Heddlu ynglŷn â’r camau nesaf. Arhoswch iddynt gysylltu â chi os na fyddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn cwrs ar-lein.

Rwy’n hunan-ynysu gyda fy mhlant ac nid oes gennyf ddarpariaeth gofal plant – sut alla i fynychu’r cwrs ar-lein?
Mae’n ofynnol gallu cwblhau’r cwrs mewn lle tawel er mwyn eich galluogi i ganolbwyntio ac ymgysylltu’n llawn. Os nad yw hyn yn bosibl, yna bydd angen ystyried un o’r opsiynau erlyn eraill. Rydym yn cynnig 3 chwrs rhithwir fesul dydd – felly efallai ystyried pa opsiwn slot amser sydd orau i chi?

Nid wyf yn hyddysg mewn cyfrifiadura, ond mae gennyf ffrind neu aelod o’r teulu a allai helpu. Ydy hyn yn iawn?
Ydy. Bydd angen i chi dawelu eich meicroffon yn ystod y cwrs os bydd eich cynorthwyydd yn aros gydol y cwrs, ar wahân i’r adeg y gofynnir i chi fynd ati i gymryd rhan. Gobeithio mai cymorth sefydlu cychwynnol yn unig fydd ei angen arnoch chi cyn dechrau’r cwrs, ac yna dylech chi fod yn hunangynhaliol.

Alla i gael cyfieithydd efo fi ar y cwrs?
Cewch. Mae’n rhaid i chi ddarparu ei (h)enw ymlaen llaw a bydd angen iddo/iddi gael ID ar gael hefyd. Bydd angen i chi dawelu eich meicroffon yn ystod y cwrs oni bai y gofynnir i chi gymryd rhan.

Beth yw’r opsiwn os na allaf fynychu’r cwrs ar-lein?
Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo’n ôl i’r heddlu sy’n cyfeirio. Oherwydd bod hwn yn ddewis amgen i erlyniad, bydd yr heddlu mewn cysylltiad i roi gwybod am y camau nesaf.

A oes yna gost i lawrlwytho “TEAMS” – y llwyfan ar-lein rydych chi’n ei ddefnyddio?
Nac oes. Gallwch ei lwytho i lawr yn rhad ac am ddim o siopau ap ar-lein fel cymhwysiad, neu gallwch gael mynediad o’r rhyngrwyd.

A fydd yn gweithio ar offer cyfrifiadurol hŷn?
Os yw’r ddyfais/meddalwedd yn dal i gael ei chefnogi, dylai fod yn gydnaws. Rydym yn argymell eich bod yn profi’r system cyn amser eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw drafferthion munud olaf.

Os byddaf yn cael fy natgysylltu ran o’r ffordd drwy’r cwrs, a fyddaf yn gallu ailarchebu yn rhad ac am ddim?
Cewch, byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig arall arni. Fodd bynnag, oherwydd bod materion sy’n ymwneud â chysylltiad yn oddrychol i raddau helaeth, bydd ailarchebu lle am ddim yn digwydd ar sail achos-wrth-achos gan ddibynnu ar natur y ‘nam’. Sylwch fod ailarchebu lle yn destun i argaeledd cyn eich dyddiad cwblhau.

A fydd yna egwyl yn ystod y cwrs?
Bydd, byddwn yn gweithredu yn yr un modd â mewn lleoliadau â thoriad o oddeutu 10 munud yn y canol.

Ydych chi’n caniatáu archebu hyblyg?
Ydym, bydd yr opsiwn i dalu tâl ychwanegol i gael yr hyblygrwydd i newid dyddiad/amser y cwrs ar-lein gwnaethoch ei archebu’n wreiddiol ar gael.

Archebu Lle

Beth mae’r cwrs yn ei olygu?
Nod y cwrs yw addysgu mynychwyr am effaith eu gweithredoedd, a’u helpu i ddeall effaith eu hymddygiad ar eu dioddefwyr. Nid yw’r cwrs yn bychanu unigolion nac yn eu dal yn atebol.

Ni ofynnir i fynychwyr am fanylion eu trosedd, a gallant fynd â’r llyfr gwaith adref â nhw.

Ydw i’n gallu methu’r cwrs?
Nid oes llwyddo neu fethu. Fodd bynnag, mae’n rhaid i fynychwyr gymryd rhan lawn er mwyn cwblhau’n llwyddiannus, ac mae’n rhaid i chi beidio â tharfu ar yr hyfforddwr

A fydd yna brawf?
Nid oes unrhyw brawf penodol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gwblhau’r cwrs ac ymgysylltu’n llawn â’r gweithdy ar-lein yn unol â chyfarwyddwyd yr hyfforddwr.

Beth os nad oes gennyf drwydded yrru neu basbort wrth law?
Fel dull arall o ID gallwch ddarparu 2 fil gwasanaeth â’r cyfeiriad yn cyfateb i’r un a ddarparwyd i’r heddlu.

Beth y mae angen i mi ei ddod efo fi?
Os nad oes gennych ID â ffotograff, cysylltwch â’r tîm gofal i gwsmeriaid ar 0344 264 6323

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth bersonol rwy’n ei darparu?
Mae’r GDPR (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018) yn diogelu eich manylion personol. Os byddwch yn cymryd rhan yn y cwrs, rydych yn cytuno i ni wirio’ch manylion yn erbyn ein cofrestr i bennu a ydych wedi cwblhau cwrs tebyg o fewn tair blynedd olaf y drosedd hon.

Ni fydd eich manylion personol ar gael i’r cyhoedd ar unrhyw adeg gan Drivetech, na’n cael eu defnyddio gan unrhyw rannau eraill o’r AA.

Cwestiynau sy'n Gysylltiedig â Covid

Pam nad yw fy rhif Trwydded Yrru yn cael ei adnabod?
Os ydych yn profi problemau wrth archebu eich lle ar gwrs ar-lein, cysylltwch â’n tîm gofal i gwsmeriaid ar 0344 264 6323 a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu ymchwilio i’r mater i chi.

Sut alla i newid fy archeb?
Os oes gennych archeb hyblyg, gallwch newid eich cwrs, yn rhad ac am ddim, hyd at 6pm y diwrnod cyn eich cwrs. Fel arall, cewch, ond efallai y bydd ffioedd ad-drefnu’n cael eu codi – gweler y cymal ar ‘Aildrefnu’ yn ein Telerau ac Amodau. Gallwch aildrefnu trwy ein gwefan yn https://courses.drivetech.co.uk/DriverAware/BookOnline3.

Ni allaf fynychu’r cwrs bellach?
Os ydych wedi archebu lle ac ni fyddwch yn mynychu am unrhyw reswm (ac eithrio ‘amgylchiadau eithriadol’), rydym yn argymell eich bod yn archebu lle ar gwrs arall ar unwaith, yn amodol ar argaeledd ac yn talu unrhyw ffioedd ailarchebu a allai fod yn berthnasol. Gallwch newch eich archeb trwy ein gwefan yn https://courses.drivetech.co.uk/DriverAware/BookOnline3. Os na fyddwch yn ailarchebu, ni fyddwch yn gymwys i fynychu’r Cynllun a bydd yr Heddlu’n ystyried eich erlyn am y drosedd. Gweler ein cymal ar ‘Beidio â mynychu’ yn ein Telerau ac Amodau.