Buddion y cwrs

Ar gael ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus â chamera a sain, band eang digonol ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Croesawgar
Hyfforddiant mewn amgylchedd hamddenol

Cyfleus
Dewiswch ddyddiad ac amser sy’n addas i chi ac mae’n hawdd archebu lle ar-lein neu dros y ffôn

Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Dim dirwy
Trwy ddilyn y cwrs hwn, nid oes angen i chi dalu’r ddirwy

Ynglŷn â'r cwrs

Caiff y Cynllun Ymwybyddiaeth Croesfannau Rheilffordd ar gyfer ystafelloedd dosbarth digidol (iLCAS) ei gynnig fel dewis amgen i dalu dirwy am drosedd methu â chydymffurfio â signalau awtomatig croesfan reilffordd.

Mae’r cwrs yn para 2.5 awr.

Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fynd â chi ar daith sydd:

  • Yn esbonio peryglon a chanlyniadau posibl methu â chydymffurfio â signalau awtomatig croesfan reilffordd
  • Eich helpu i gadw’n ddiogel ar groesfannau rheilffordd trwy gynllunio ymlaen llaw, canolbwyntio a pharchu’r peryglon y maent yn eu hachosi
  • Codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau gwrthdrawiadau a fu bron a ddigwydd i’r gyrrwr a theithwyr

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon