Buddion y cwrs

Cwrs Ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Cyfleus
Dechreuwch y cwrs ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi. Hawdd archebu lle ar-lein

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Dim dirwy
Trwy ddilyn y cwrs hwn, nid oes angen i chi dalu’r ddirwy

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs ar-lein yw Dy Wregys Dy Fywyd (YBYL) a chaiff ei gynnig fel dewis amgen i dalu dirwy am drosedd peidio â gwisgo gwregys diogelwch neu beidio â defnyddio sedd car plentyn briodol.

Mae’r cwrs yn para 30 munud, a gellir ei wneud i gyd ar unwaith neu ychydig ar y tro.

Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs yn rhyngweithiol ac mae yna gwis i wirio eich bod wedi deall y prif bwyntiau:

  • Pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio sedd car plentyn briodol
  • Canlyniadau cam-ddefnydd

Ar ddiwedd y cwrs, cewch gynllun personol i’ch helpu i ddechrau’r arfer o wisgo gwregys diogelwch bob amser.

 

 

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon