Buddion y cwrs

Cwrs Ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Cyfleus
Dechreuwch y cwrs ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi. Hawdd archebu lle ar-lein

Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; ond mae cwis ar y diwedd i wirio eich dealltwriaeth

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Dim dirwy
Trwy ddilyn y cwrs hwn, nid oes angen i chi dalu’r ddirwy

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Cwrs Beicio Diogel ac Ystyriol (SCCC) yn gwrs ar-lein ac yn cael ei gynnig fel dewis amgen i dalu dirwy am drosedd beicio trwy olau coch, am feicio heb oleuadau, neu am feicio ar balmentydd a llwybrau nad ydynt yn agored i feicwyr.

Mae’r cwrs yn para 30 munud, a gellir ei wneud i gyd ar unwaith neu ychydig ar y tro.

Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs yn rhyngweithiol ac mae yna gwis i wirio eich bod wedi deall y prif bwyntiau:

  • Y rheolau a rheoliadau allweddol ar gyfer beicwyr
  • Sut mae’r cyfreithiau hynny’n helpu i gadw beicwyr a phobl eraill yn ddiogel
  • Eich helpu i ddatblygu strategaethau i gadw o fewn y gyfraith wrth feicio

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch chi’n cael cynllun personol i’ch helpu i feicio’n ddiogel ac yn ystyriol.

 

 

 

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon