Newyddion Diweddaraf Coronafeirws

Mae cyrsiau i yrwyr dan Gyfeiriad yr Heddlu wedi symud o ystafell ddosbarth go iawn i ystafell ddosbarth ar-lein. Bellach byddwch yn cael mynediad at gyrsiau trwy gyswllt fideo diogel naill ai o’ch gliniadur, eich llechen neu’ch ffôn.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyrsiau mewn ystafell ddosbarth go iawn yma.

Paratoi i ddilyn eich cwrs

Ar ôl i chi archebu eich lle ar gwrs, byddwch chi’n derbyn e-bost a/neu neges destun. Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cynnwys y ddolen fideo i’ch cwrs, a manylion y gofynion TG penodol, a’r angen am ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan.

Cofiwch wirio eich ffolderi e-bost sbam/sothach rhag ofn i’ch e-bost Cyfarwyddiadau Ymuno fynd yno’n anfwriadol.

Gweler ein dwy ganllaw i ddefnyddiwr yma ar gyfer cyfarwyddiadau sut i gael mynediad i’n cyrsiau ar-lein. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnwys yn eich cyfarwyddiadau ymuno:

   

Os na allwch chi gwblhau eich archeb ar-lein

Bydd ein llinellau ffôn ar agor rhwng 7.30am a 5.00pm (dydd Llun i ddydd Gwener) a rhwng 8.00am a 3.00pm (dydd Sadwrn a dydd Sul).

 

Ynglŷn â Chyrsiau dan Gyfeiriad yr Heddlu

UKROEd yw corff llywodraethu’r DU ar gyfer cyrsiau i droseddwyr gyrrwr dan gyfeiriad yr heddlu. Gwnaethant atal pob cwrs mewn ystafell ddosbarth ddydd Gwener 20fed Mawrth 2020, hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol. Gwnaed y penderfyniad hwn i ddiogelu iechyd a diogelwch ein mynychwyr a hyfforddwyr, ac i gadw at ganllawiau’r llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol.

Darparwr gwasanaeth yw Drivetech, y mae rheolau UKROEd yn ei lywodraethu. Mae’n ofynnol i ni atgoffa mynychwyr bod hyn yn rhan o broses farnwrol – a bod cynnig presennol yr Heddlu o gwrs addysgol yn ddewis amgen i bwyntiau a/neu ddirwy, neu fynychu’r llys.