Buddion y cwrs

Ar gael ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus â chamera a sain, band eang digonol ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan

Croesawgar
Hyfforddiant mewn amgylchedd hamddenol

Cyfleus
Dewiswch ddyddiad ac amser sy’n addas i chi ac mae’n hawdd archebu lle ar-lein neu dros y ffôn

Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn

Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall

Dim dirwy neu bwyntiau cosb
Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy ac ni fydd pwyntiau cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Cwrs Diogel ac Ystyriol ar gyfer ystafelloedd dosbarth digidol (iSCD) yn cael ei gynnig fel dewis amgen i erlyniad ar gyfer y rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad ac am y drosedd o yrru heb ofal a sylw dyledus. 

Nid yw’r cwrs yn codi cywilydd ar unigolion, yn eu barnu, nac yn eu dwyn i gyfrif am y drosedd a gyflawnwyd. Ac ni fydd yr hyfforddwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn gofyn i unrhyw un yn y grŵp siarad am eu trosedd. Ni fydd pobl sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (ac unrhyw amodau eraill a bennir gan yr heddlu) yn cael eu herlyn am y drosedd wreiddiol.

Mae’r cwrs yn para 2.5 awr, a gall y pris amrywio gan ddibynnu ar yr heddlu sy’n cyfeirio.

Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.

Mynychu’r cwrs

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i fynd â chi ar daith sy’n cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r canlynol:

  • Achosion a chanlyniadau negyddol gyrru peryglus ac anystyriol
  • Pwysigrwydd canolbwyntio, arsylwi, rhagweld a chaniatáu lle ac amser digonol
  • Rhesymau pam y gallai eich gyrru eich hun fod yn anniogel neu’n anystyriol

Byddech hefyd, fel arfer, yn cael hyfforddiant ymarferol, personol, ar y ffordd, a chyfle i greu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol yn bersonol.

Yn barod i archebu lle?

Dewiswch Archebwch Yma ar frig y dudalen hon