Ydych chi eisoes yn fynychydd neu’n fynychydd newydd?
Ar gael ar-lein
Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gliniadur, llechen neu ffôn deallus â chamera a sain, band eang digonol ac ardal lle na fydd eich sylw’n cael ei dynnu i gymryd rhan
Croesawgar
Hyfforddiant mewn amgylchedd hamddenol
Cyfleus
Dewiswch ddyddiad ac amser sy’n addas i chi ac mae’n hawdd archebu lle ar-lein neu dros y ffôn
Dim profion llwyddo neu fethu
Nid oes unrhyw brawf llwyddo neu fethu; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser ac yn aros ar gyfer y sesiwn gyfan
Llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Gyda chwrs addysgol rydych yn llai tebygol o gyflawni trosedd arall
Dim dirwy neu bwyntiau cosb
Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy ac ni fydd pwyntiau cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded
Mae’r Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth ar y Draffordd ar gyfer ystafelloedd dosbarth digidol (iNMAC) yn ymyrraeth ddengar, ddiddorol a phleserus sy’n arwain at newid parhaus yn y ffordd y mae mynychwyr yn gyrru ar draffyrdd, gan gynnwys Traffyrdd Deallus. Mae’n opsiwn addysgol ac adsefydlol i’r rheiny sydd wedi cyflawni trosedd ar draffyrdd, ac sydd wedi cael eu dargyfeirio o’r llys gan yr heddlu trwy roi Hysbysiad Cosb Benodedig Amodol (CFPN).
Nid yw’r cwrs yn codi cywilydd ar unigolion, yn eu barnu, nac yn eu dwyn i gyfrif am y drosedd a gyflawnwyd. Ac ni fydd yr hyfforddwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn gofyn i unrhyw un yn y grŵp siarad am eu trosedd. Ni fydd pobl sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (ac unrhyw amodau eraill a bennir gan yr heddlu) yn cael eu herlyn am y drosedd wreiddiol.
Mae’r cwrs yn para 2.5 awr, a gall y pris amrywio gan ddibynnu ar yr heddlu sy’n cyfeirio.
Cliciwch yma ar gyfer Telerau ac Amodau.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fynd â chi ar daith sydd:
Mae’r rhan fwyaf o fynychwyr wedi cyflawni trosedd ar draffyrdd deallus, felly mae’r cwrs yn canolbwyntio ar esbonio sut mae traffyrdd deallus yn gweithio ac ystyr yr arwyddion y gallant ddod ar eu traws. Fodd bynnag, efallai bod rhai mynychwyr wedi’u cyfeirio am yrru ar y llain galed neu fethu â chydymffurfio â X coch ar draffordd draddodiadol.
Mae cyrsiau i yrwyr dan Gyfeiriad yr Heddlu wedi symud o ystafell ddosbarth go iawn i ystafell ddosbarth ar-lein. Bellach byddwch yn cael mynediad at gyrsiau trwy gyswllt fideo diogel naill ai o’ch gliniadur, eich llechen neu’ch ffôn.